English

 / 

Cymraeg

Y Weledigaeth

71/72
a –

dyfodol
Abertawe

Mae 71/72 yn rhan o broject adnewyddu Bargen Ddinesig Bae Abertawe a’r amcan allweddol yw targedu cyflogaeth sgiliau uwch yng nghanol dinas Abertawe.

Mannau cyhoeddus

Gweithio fel rydych chi’n dymuno ei wneud – gyda mannau cyhoeddus y tu mewn a’r tu allan i’r adeilad.

Bydd y datblygiad defnydd cymysg yn cynnig gweithle nodedig, hyblyg, gyda’r adnoddau digidol diweddaraf, ynghyd â dyluniad sy’n rhoi lle blaenllaw i gynaliadwyedd.

Bydd yr adeilad yn cynnwys teras trawiadol ar y to ac atria ar hyd y lloriau uchaf. Bydd y mannau cyhoeddus unigryw yn cynnwys ardaloedd dynodedig i gynnal digwyddiadau a chyfarfodydd, a safleoedd gwerthu bwyd, diod ac adwerthu.

Abertawe

Gan gefnogi gweledigaeth a gwerthoedd Cyngor Abertawe i feithrin rhagoriaeth a dyhead, bydd yr adeilad yn cynnig dulliau cyfathrebu digidol arloesol i weithwyr a lleoliad delfrydol i fusnesau rhyngwladol, cenedlaethol a lleol, yn ogystal â chyfleoedd twf a chymorth i gwmnïau newydd sbon yn y sectorau technoleg a chreadigol arloesol.

Mae’r project hwn yn rhan o daith Cyngor Abertawe i drawsnewid y ddinas gan ddilyn cynlluniau nodedig eraill – Pont 160 troedfedd Bae Copr a’r arena dan do, gwerth £135 miliwn, sy’n dal 3,500 o bobl.

Arena Abertawe

Arena ddigwyddiadau newydd Abertawe yng nghanol y ddinas.

Arena Abertawe

Arena ddigwyddiadau newydd Abertawe yng nghanol y ddinas.

Pont Bae Copr

Pont i gerddwyr a beicwyr sy’n cysylltu’r ddinas â’r Marina a’r traeth.

Pont Bae Copr

Pont i gerddwyr a beicwyr sy’n cysylltu’r ddinas â’r Marina a’r traeth.

Mae’r project hwn yn rhan o daith Cyngor Abertawe i drawsnewid y ddinas gan ddilyn cynlluniau nodedig eraill – Pont 160 troedfedd Bae Copr a’r arena dan do, gwerth £135 miliwn, sy’n dal 3,500 o bobl.

Darganfod mwy _