English

 / 

Cymraeg

Lleoliad

Beth bynnag rydych
chi’n ei hoffi –

mae gan
Abertawe le i chi

Mae lleoliad 71/72 yng nghanol dinas Abertawe yn golygu bydd gan weithwyr fynediad hwylus i’r amwynderau lleol a chyfleusterau cymdeithasol amrywiol unrhyw bryd yn ystod y dydd.

Coffee #1

Coffi gwych gan faristas dawnus, a bwydlen anffurfiol mewn awyrgylch croesawgar.

Traeth Abertawe

Mae ardal Gŵyr yn enwog am ei harddwch a’i thraethau tywod euraidd, eang.

Siopa yn y ddinas

Mae amrywiaeth eang o siopau yn ninas Abertawe, gan gynnwys Canolfan Siopa’r Quadrant.

Arena Abertawe

Canolfan adloniant a digwyddiadau amlbwrpas ddiweddaraf de Cymru.

The Lighthouse Bar & Kitchen

Cyrchfan newydd yn Abertawe i gyfarfod, yfed a bwyta ym Mae Bracelet Bay, Y Mwmbwls.

Founders & Co.

Bwyd bendigedig a bîts artistig mewn neuadd fwyd, bar a man adwerthu.

Cysylltiadau

Mae teithio o amgylch Abertawe yn hwylus iawn ac mae Gorsaf drenau a bysiau canolog Abertawe o fewn pellter cerdded. Mae sawl bws yn aros ar Ffordd y Brenin, ac mae’r stryd hefyd yn cynnwys llwybr beicio a mannau parcio i geir.

I deithio ymhellach, mae’r adeilad o fewn cyrraedd hwylus i’r M4 (4 milltir i ffwrdd) a’r rhwydwaith ffyrdd cenedlaethol.

Ffeithiau allweddol Abertawe

Abertawe yw ail ddinas fwyaf Cymru

Poblogaeth: 237,800 (Mehefin 2021)¹

Canolfannau campws Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Choleg Gŵyr

Cronfa dalent – 29,000 o fyfyrwyr amser llawn (2021-22)²

7,735 o fusnesau gweithredol yn Abertawe yn 2021³

27,000 o bobl yn cymudo i Abertawe bob dydd (2022)⁴

80.5% o breswylwyr oedran gwaith Abertawe (16-64) yn weithgar yn economaidd⁵

Enillion cyfartalog gweithwyr amser llawn yw £593.10 yr wythnos a £30,262 y flwyddyn.⁶

Abertawe

1. 2021 – rhagolygon poblogaeth canol blwyddyn, ONS. Mae rhagor o ystadegau, gan gynnwys y boblogaeth yn ôl oedran, ar gael yn www.swansea.gov.uk/population.
2. Ystadegau Addysg Bellach ac Uwch 2021-22, Higher Education Statistics Agency (HESA) a LlC (cyhoeddwyd Ionawr-Chwefror 2023).

3. Ystadegau demograffeg busnesau 2021, ONS.
4. Cofrestr Busnesau ac Arolwg Cyflogaeth (BRES) rhagolygon yn seiliedig ar y gweithle 2021, ONS. b) Tablau cymudo 2022, cyhoeddwyd gan LlC gan ddefnyddio amcangyfrifon APS.
5. Rhagolygon APS ar gyfer cyfnod yr arolwg a ddaeth i ben Rhagfyr 2022, ONS.
6. Arolwg Blynyddol Oriau ac Enillion (ASHE) Ebrill 2022, ONS.

Darganfod mwy _